1361: Krautrock yn y Fatican

Mae gŵyl krautrock Daf y gath yn syfrdanol o lwyddiannus.

Mae gŵyl krautrock Daf y gath yn syfrdanol o lwyddiannus. Mae awyr y Fatican yn atsain â grŵfs motorig.

Mae Daf yn cael profiad seicedelig dwys trwy’r holl ddigwyddiad, wrth gwrs, wedi cymryd paced cyfan o Dreamies cyffuriol.

Mae’r Pandas Pinc wrthi’n chwarae cân o’r enw “Gwyliwch fi, tractor ydw i”, a ddechreuodd cwpl o oriau’n ôl. Ymddengys bydd yn parhau am cwpl o oriau eto. Ond mae’r gynulleidfa o ynfydion llawn bwriadau da a thiwtoriaid Cymraeg yn edrych yn hapus. Mae tiwtoriaid Cymraeg yn mwynhau pethau ailadroddol, wedi’r cwbl.

Yn sydyn, mae rhywun yn dechrau codi stŵr yng nghromlech Julian Pope.

O diar.

Mae Bryn Teribl wedi dod yn ôl.

Ac mae e’n cario ei gitâr fas.

Sut ddigwyddodd hyn?

Yn anffodus, unwaith ei fod wedi cyrraedd adref yn ei flwch cardbord, bwytaodd Dreamies seicedelig Daf y gath, tra bod Santes Dwynwen yn gwneud brechdan iddo fe. Fel canlyniad, aeth e i’r Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel yn syth, ac, wel, dyma ni.

Nawr, mae e eisiau ymuno â’r band ar y llwyfan.

O diar.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.