
Mae Dewi Sant wedi penderfynu’r hoffai gael swydd nawddsant agorwyr poteli. Byddai’n newid da iddo. Mae e wedi cael hen ddigon o’r “pethau bychain” uffernol.
Ond wrth gwrs, mae’r enwog Bryn Teribl am ymgeisio am y swydd hefyd. Yn ôl ef, fe yw’r unig ymgeisydd addas oherwydd ei berthynas angerddol â’i agorwr poteli ei hunan.
Yn y cyfamser, mae Daf y gath yn cynllunio.
Beth am danseilio’r proses ymgeisio?
Pe na bai’r seintiau i gyd yn gwneud ymgais, yna byddai rhaid i’r Esgob wneud yr holl waith.