
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi dod o hyd i agorwr poteli, wedi iddo ddiflasu ar ei agorwr tuniau.
Mae Daf y gath yn gwylio wrth i Bryn agor drws yr oergell a dechrau siglo’r poteli o ddiodydd byrlymus i gyd.
Rheda, Daf!
Ymhen eiliadau, mae cawodydd o hylifoedd melys dros y lle i gyd, ac mae Bryn Teribl yn dawnsio yn y gegin fel gweinidog sy’ newydd ganslo’r Nadolig.