
Mae’r enwog Bryn Teribl wedi dod o hyd i agorwr tuniau.
Duw a’n helpo.
Mae e’n ceisio agor amrywiol bethau. Amrywiaeth o bethau, hynny yw, ond tuniau.
Yr Iesu a wylodd.
Fydd yr agorwyr tuniau’n agor y llen gawod?
Na fydd.
Fydd yr agorwyr tuniau’n agor Daf y gath?
Dyw Daf ddim yn fodlon aros i ffeindio mas.