1347: Maes campio

Ma Daf y gath ‘di defniddio’i helw o’r garej i brynu maes campo i tu ôl i’r pentre.

Wrth gwrs, ma ffasgwyr Harri Benwyn in imddangos in syth a thrio trefnu rali fowr ffasgaidd ar i maes.

Dim gobeth.

Ma Daf a Jeff i whâr in chaso’r ffasgwyr o’r maes fesul un. Ma fel hen raglen Benny Hill.

Ac ma’r Anghrist, sef babi Santes Dwynwen, in ‘u helpu nhw.

Bob tro bydd un o ffasgwyr bach Harri Benwyn yn gadel i maes, bydd yr Anghrist in jwmpo arnyn nhw a’i draeno o waed.

Mowredd.

Cyn bo hir, ma’r glaswellt o gwmpas i maes wedi’i fflydo. Ych-a-fi.

Ody’r ffasgwyr di mynd am byth?

Nadyn. Ma gormod onyn nhw. Ond dina dechre arni, ta beth.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.