So Bryn Dishgled in lico i enw newydd miwn gwirionedd. Wê pethe’n lot haws cyn iddo dderbyn ir enw “Dishgled” oddi wrth Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol.

Ar i dechre, fe gâth e gropad go iawn er mwyn ffito miwn gida Harri a’i ffasgwyr bach. Ond nawr, ma’r holl sefillfa’n neud iddo fe dwmlo’n drist tu hwnt a codi whant arno fe adel Crymych unweth ac am byth.
Oherwydd i enw newydd, ma fe di bod in ifed cryn dipyn o de. Ma’n bwysig cadw’r hen benderfinieth enwol i fynd.
Ma whant arno fe berfformio a whare i gitâr fâs eto, ond fe âth Harri Benwyn â’r offeryn oddi wrtho fe.
Am drist.
Ma fe’n allwish cwpaned arall o de a breuddwydio am fod in Bryn Teribl unweth eto.