Sul i Mame yw heddi.
Ma Harri Benwyn, y ffasgydd uffernol sy’n rhedeg i Crymych Ffasgaidd Newydd in dishgwl i’r ferched i gyd gâl babanod erbyn amser cino.
Wes unrhyw un in feichiog?
Na wes.
Ma Mrs. Cadog, morwyn fach ffiddlon Harri Benwyn, in esgus câl babi trwy rhoid gobennydd dan ‘i siwmper a chwedyn gollwng cabetsen i fwced.
Wel, dina Ymddŵyn Difrycheulyd i’r byd sydd ohoni.
Ma Harri Benwyn in penodi’r cabetsen in rheolwr i ddinion i bins. Am annishgwl.
Gan fod Daf y gath bellach yn gwitho in i garej, ma Bryn Dishgled, ‘n harwr hanner-call, ‘di câl ‘i benodi’n sgrifennydd i gyd o bwllgore Harri Benwyn. Hyd yn hyn, ma fe di tynnu llun hifryd o un o’i geir bach.