1342: Dyrchafiad

Ma Daf y gath di câl hen ddigon o witho fel sgrifenniddes i Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol sy’n rhedeg i Crymych Nowydd.

Felly ma hi am gâl dyrchafiad.

Ma hi isie disodli un o rheolwyr i garej lle ma nhw’n gwerthu’r peis sy’n llosgi dy geg.

Ac in i Crmymch Ffasgaidd Newydd, ma rhaid i bawb ailymgeisio am ‘u swyddi nhw, oherwydd mympwyon Harri Benwyn. Felly, fydd cifle?

Bydd. Fel sgrifenniddes ma hi’n câl gweld nodiadau pob un cifweliad. Ma hi’n ymbalfalu im mhentwr i dogfenne.

Beth yw hwn? Ai dina’r canliniade?

Ie, dina nhw. Ma Daf yn sgriblo rhywbeth ar waelod i darn o bapur.

Imddengys bod hi ‘di bod in llwyddiannus fel imgeisydd am i swydd in i garej wedi’r cwbwl!

Da iawn, Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.