Ma’r ffasgwyr sy’n rhedeg i Crymych Ffasgaidd Newydd ‘di penderfynu cihoeddi rhywbeth am losgiad i sied fridio.

Ond fel unrhyw ffasgydd, so’r uffernol Harri Benwyn yn diall i sefillfa sydd ohoni.
Ma fe’n sefyll ar lwyfan, rhwng ir atgas Mrs. Cadog ac Elin Conan, penneth ir heddlu cudd.
Ma fe’n rhoid i bai ar drigolion i pentre, a bygwth y gosb eithafol i unrhyw unigolyn sy’n cynnig cymorth i’r seintie sy’ di’ dianc.
Ond so neb in gryndo. Disgon nhw’n syth ar ôl i’r ffasgwyr cyrredd na wes pwynt gryndo ar ‘u rybish nhw.
Ma Daf y gath yn towlu Dreamies atyn nhw a châl ‘i chludo’n syth i’r carchar.