1334: Achub Dewi Sant

In i Crymych Ffasgaidd Newydd, ma’r Heddlu Cudd ym mhobman — ym mhob un caffi, in i siop cebabs, ac in i siop sy drws nesa i’r garej lle ma nhw’n gwerthu’r peis ‘na sy’n llosgi dy geg.

“Ma Jeff yn rhoid cledrad iddo fe, dim whare.”

So shwd ma achub Dewi Sant, sy’n gaeth in labordy Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol?

Shwd ma ffindo fe, hyd ‘n wed?

Wel, fel ffasgwyr bach da arferol, dyw heddweision Harri Benwyn ddim yn lot callach na phlanhigion. Sanyn nhw’n enwedig o guddiedig chwaith.

Ma’r cathod in mynd i’r siop cebabs ac ma Jeff in gofyn i heddwas yr Heddlu Cudd ble ma labordy dirgel Harri Benwyn.

— Lan yr hewl, heibo i’r isgol.

— Diolch yn fawr.

— Ond nawr ma rhaid i fi dy ladd di.

— Na wes.

Ar hinny, ma Jeff yn rhoid cledrad iddo fe, dim whare. Ma hi’n crafu’r heddwas mor ddwfwn, ma’n bosib gweld esgyrn i fraich.

Ma fe’n wylo i’w gebab.

— Daf, dere mlân, medd Jeff. — Ma gida ni waith i neud.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.