Ma Harri Benwyn, i ffasgydd uffernol sy bellach in arwen i Crymych Newydd, isie rhywbeth catshi i’w rhoid ar hetie’r Blaid.

Ma fe ‘di bod in gwylo Donald Trump a meddwl dile fe Mwyhau Crymych Eto.
Ond sani hi mor hawdd gweud “MCE”.
Ond beth am Mwyhau Ein Crymych Eto? ‘Na fe. MECE. Bydd hwnna’n drichid in sblennydd ar i hetie coch.
Mae Daf y Gath in codi pawen.
— Bydd ir enwog Bryn Dishgled in camddiall, medd Daf.
Ma’r enwog Bryn Dishgled ishoes ‘di camddiall. Ma fe ar i ffordd i’r Dwyren Canol i gymryd rhan in ir Hajj.