Fel pob un ffasgydd bach, ma Harri Benwyn, penneth y Crymych Ffasgaidd Newydd, yn lico ymddangos in benderfynol tu hwnt.

Er enghrefft.
Dwê, nath e benderfynu byse fe’n cihoeddi newiddion bwysig am rywbeth neu’i gily. Trefnwyd cifarfod cihoeddus, a wê lot o ffýs.
Heddi, ma fe di newid i feddwl a chanslo’r cifarfod, oherwydd wedd e’n gwbwl rong.
Ma fe ‘di rhoi’r bai ar Daf y gath.
Ma Daf yn codi ‘i phawen.
— Pam nag w’ ti’n jyst gweud y gwir? medd Daf.
Ond ma Harri Benwyn wedi symud mlân i’r peth nesaf.