Mae Harri Benwyn, y ffasgydd uffernol, in ymweld â’i orsaf fridio lle ma fe’n cadw’r annwl Santes Dwynwen. Ma fe isie gwbod pam nad yw gyd o’r seintie yn bridio eto.

— Fi’n anrhywiol, bêsicli, medd Santes Dwynwen.
— Am eironi, medd Harri Benwyn, cyn rhoid sioc iddi gida ffon drydan. Gida hinny, ma hi’n mynd lawr bang. Druan arni hi.
Pwy arall sydd yn y sied fridio?
Dima Teilo Sant, yn byrblo wrtho’i hunan miwn cornel, a Carannog Sant, sy’n drichid ar frechdan caws in anfoesol.
Wes na rocesi erill?
Na wes.
Fydd na ddim lot o fridio’n digwydd felly.
‘Se Santes Dwynwen yn ymwybodol, ‘se hi ‘di gweld pâr o glustie oren yn mynd heibo i’r ffenest. Dima Daf y gath, ac ma hi isie bisgedi.
Yn lwcus iddi hi, sani hi di câl ‘i gweld gan Harri Benwyn. Am y tro, o leia. Phiw.