Bydd angen Pab newydd, ac mae Tudno Sant eisiau’r swydd.
All sant ddod yn bab?
Efallai. Efallai ddim. Mae’n gymhleth.
Yn anffodus i Dudno Sant, mae’r Esgob eisiau’r swydd hefyd. Mae e’n uchelgeisiol iawn. Mae e wir eisiau gwisgo cap bach gwyn, rownd a chwifio ar ei bobl o ffenest y Fátican.
Ydy Dewi Sant yn uchelgeisiol?
Nac ydy. Mae e’n gwbl hapus i aros gartref ac ysmygu.
Ydy Daf y gath yn uchelgeisiol?
Er syndod mawr i bawb, ydy. Mae Daf y gath eisiau’r swydd hefyd.
Mawredd.

Saesneg / English
Ambitious
A new Pope will be needed, and Tudno Sant wants the job.
Can a saint become a pope?
Maybe. Maybe not. It’s complicated.
Unfortunately for Dudno Sant, the Bishop wants the job too. He is very ambitious. He really wants to wear a little white, round cap and wave at his people from a Vatican window.
Is Saint David ambitious?
No. He is perfectly happy to stay at home and smoke.
Is Dave the cat ambitious?
Much to everyone’s surprise, yes. Dave the cat wants the job too.
Crikey.