Mae Daf y gath wedi anghofio prynu cardiau Nadolig.
O diar.
Nawr, mae cardiau oddi wrth ffrindiau wedi dechrau cyrraedd.
Arhoswch am eiliad.
Nid dyna gerdyn.
Dyna fil trydan.
Nid dyna gerdyn chwaith.
Dyna fil dŵr.
Mewn gwirionedd, does neb wedi anfon cerdyn Nadolig at Daf. Phiw. Gall hi ymlacio.
Saesneg / Englisb
Cards
Dave the cat has forgotten to buy Christmas cards.
Oh dear.
Now, cards from friends have started arriving.
Wait a moment.
That’s not a card.
That’s an electricity bill.
That’s not a card either.
That’s a water bill.
In fact, nobody has sent Dave a Christmas card. Phew. She can relax.