Mae Jeff y gath wedi penderfynu gwerthu peiriannau amaethyddol yn y ganolfan grefft.
Ydy hi’n gwneud y peiriannau eu hun?
Nac ydy.
Ond maen nhw’n edrych yn ffantastig.
Mae peiriant coch newydd gyrraedd.
— Beth ma hwnna’n neud, Jeff? gofyn Daf ei chwaer.
— Does neb yn gwbod, etyb Jeff, — ond ma’n edrych yn ffantastig.
Saesneg / English
Agricultural machinery
Jeff the cat has decided to sell agricultural machinery in the craft centre.
Does she make the machines herself?
No.
But they look fantastic.
A red machine has just arrived.
— What does that do, Jeff? asks Dave her sister.
— Nobody knows, answers Jeff, — but it looks fantastic.