Ddoe, triodd Dewi Sant gynnau sigarét yn Nhŷ’r Cyffredin. Does dim caniatâd i neb ysmygu yn Nhŷ’r Cyffredin. Hen adeilad peryglus yw Tŷ’r Cyffredin.
Heddiw mae e’n feipio.
Arhoswch am funud.
Oes asbestos yn Nhŷ’r Cyffredin?
O, oes. Mae Tŷ’r Cyffredin yn llawn o asbestos.
Gyda beth mae Bryn Teribl yn chwarae ynghanol y llawr?
O, Bryn. Paid â gwneud hynny!
Mae Jeff y gath yn gwneud galwad. Mae hi’n mynd i gyflogi rhywun i gael gwared â’r holl asbestos.
 bod yn fwy penodol, mae hi’n mynd i gyflogi ei chwaer. Bydd yn ofalus, Daf!
Saesneg / English
Danger
Yesterday, Saint David tried to light a cigarette in the House of Commons. No one is allowed to smoke in the House of Commons. The House of Commons is a dangerous old building.
Today he is vaping.
Wait a minute.
Is there asbestos in the House of Commons?
Oh, yes. The House of Commons is riddled with asbestos.
What is Bryn Teribl playing with in the middle of the floor?
Oh, Bryn. Don’t do that!
Jeff the cat makes a call. She is going to hire someone to get rid of all the asbestos.
To be more specific, she is going to employ her sister. Be careful, Dave!