October 17, 2024

Mae’r enwog Bryn Terfel a’i efell Owain Glyndŵr wedi rhedeg i ffwrdd i ymuno â’r syrcas. Mae Bryn Terfel yn gwisgo gwisg Siôn Corn. Maen nhw’n rhedeg o gwmpas y babell fawr yn wyllt wrth i’r gynulleidfa gymeradwyo.

Mae Dewi Sant a’r cathod yn syllu arnyn nhw’n gegrwth.

Ond beth sy’n digwydd nawr?

Mae’r enwog Bryn Terfel yn dechrau dringo ysgol. Mae e am roi cynnig ar y trapîs.

Bydd yn ofalus, Bryn!

Mae Owain Glyndŵr yn dechrau neidio lan a lawr. Dyw e ddim yn gwybod sut i ddringo ysgol.

Am olygfa ardderchog! Mae’r enwog Bryn Terfel yn hedfan trwy’r awyr a gwneud triciau yn ei wisg Siôn Corn. Mae menyw ifanc yn ymuno ag e, ac maen nhw’n pasio rhywbeth disglair rhyngddyn nhw.

Beth yw e?

Tun rhostio yw e!

Mae’r enwog Bryn Terfel mor, mor hapus.

Saesneg / English

Trapeze

The famous Bryn Terfel and his twin Owain Glyndŵr have run away to join the circus. Bryn Terfel is wearing a Santa outfit. They run wildly around the big top as the audience applauds.

Saint David and the cats stare at them open-mouthed.

But what is happening now?

The famous Bryn Terfel is starting to climb a ladder. He wants to have a go on the trapeze.

Be careful, Bryn!

Owain Glyndŵr starts jumping up and down. He doesn’t know how to climb a ladder.

What a wonderful sight! The famous Bryn Terfel flies through the air and does tricks in his Santa outfit. A young woman joins him, and they pass something shiny between them.

What is it?

It’s a roasting tin!

The famous Bryn Terfel is so, so happy.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.