– Jeff, meddai Daf y gath un tro, – ma syniad ‘da fi. Gallen ni ennill bach o arian. O na, dim eto, meddyliodd Jeff. – Be ti mynd i neud nawr te? gofynnodd Jeff, heb eisiau gwybod. – Dwi’n mynd i greu asiantaeth recriwtio. – Ti ddim, meddai Jeff. – Paid bod mor dwp….
Month: March 2022
Sul y Mamau
Nid dydd Sul cyffredinol yw e heddiw. Sul y Mamau yw e. Does gan y cathod dim diddordeb yn Sul y Mamau o gwbl tan i gerdyn gyrraedd. Enw Santes Dwynwen sydd ar yr amlen. – Beth yw hwnna? gofynna Jeff y gath, yn trio peidio chwerthin. – Oes cyfrinach bach gyda ti? Mae Santes…
Gwyllt
Mae Daf y gath yn teimlo’n wyllt, achos bod y gwanwyn wedi dod. Mae hi’n rhedeg o gwmpas sied Dewi Sant, lle mae Dewi yn mwynhau ffag a chwrw. Mae hi’n rhedeg o gwmpas peiriant cwstard Santes Dwynwen, lle mae Dwynwen yn paratoi archeb enfawr ar gyfer yr Esgob. Mae hi’n rhedeg o gwmpas yr…
Anwybyddu
Mae’r Mistar Afal Hapus dieflig wedi ei drapio yn nhŵr y cathod gan selsig Franz Kafka. Dyw e ddim yn hapus o gwbl. Mae e’n udo’n uchel, ond does neb yn dod i’w achub, achos bod pawb yn casáu’r ffrwyth brawychus. Mae Jeff y cath yn chwilio am fwyd fel arfer. Mae hi’n cerdded o…
Mistar Afal Hapus a’r Selsig
Un tro, roedd y Mistar Afal Hapus dieflig yn cuddio yn nhŵr y cathod unwaith eto. Roedd e’n gobeithio codi ofn arnynt, neu’u rhwystro rhag gael gorffwys o lleiaf. Yn sydyn, ymddangosodd Franz Kafka, yr awdur enwog, a oedd yn rhyfeddol o fach. Roedd paced gydag e. – Shwmae, meddai’r awdur. – Fyddet ti’n meindio…
Enw’r wefan
Un tro, roedd Jeff yn meddwl am bethau. – Daf, pam mae dy enw di ar y wefan hon, ac nid ‘n enw i? – Sai’mod, atebodd Daf. – Falle achos bo fi’n fwy doniol. – Ti ddim, meddai Jeff, a gwthio Daf i lawr y grisiau i mewn i fwced o gwstard.
Y bwyd anghywir
Mae’r staff yn cynnig bwyd i’r cathod. Cynigir banana i Jeff. – Dyna’r bwyd anghywir, meddai Jeff. – Wfft i hynny. Cynigir brocoli i Jeff. – Dyna’r bwyd anghywir, meddai Jeff unwaith eto. – Wfft i hynny. Cynigir taten i Jeff. – Dyna’r bwyd anghywir. Paid â cynnig unrhyw llysieyn arall, meddai Jeff. – Dw…
Angharedig
Mae Mistar Afal Hapus braidd yn angharedig wrth Ddraig y ci. Twpsyn yw Draig, ond mae e’n garedig. Nid yw Mistar Afal Hapus yn garedig o gwbl. Mae Mistar Afal Hapus yn eistedd ger sied Dewi Sant. Bob yn ail funud, mae e’n gweiddi “Cwningen!” ac mae Draig yn rhedeg o gwmpas yr ardd yn…
Meddiannu
Afal anfad yw Mistar Afal Hapus. Mae e’n esgus bod yn hapus, ond mewn gwirionedd, mae e eisiau i bawb arall fod yn anhapus iawn iawn. Mae Mistar Afal Hapus wedi meddiannu ystafell uwch tŵr y cathod. Mae e’n syllu allan o’r tŵr â’i wên echrydus, a dymuno niweidion mawr ar bawb. Mae Daf y…
Y Parti Mawr
Trefnodd Dewi Sant y parti i ddathlu Diwedd y Byd. Roedd e wedi gwahodd sawl sant, yr Esgob, a chwpl o fenywod nad oedd yn gwisgo llawer. Llifodd y cwrw, llifodd y cwstard cariad o beiriant cwstard Santes Dwynwen. Roedd yr ardd mewn anrhefn llwyr o hwyl a sbri, ac roedd Keith y gowrd yn…
