Mae Dewi Sant yn dal yn osgoi ymweld â’r esgob. Mae e’n barod i wneud unrhyw beth o gwbl yn lle hynny. Mae e’n tanio ffag, ac yna droi i wynebu Daf y gath, sydd yn llyfu ei draed. – Daf, wyt ti eisiau chwarae pi-po? gofynna Dewi Sant. – Ydw i’n edrych fel dw…
Month: November 2021
Un ar Ddeg Esgus Dewi Sant
Annwyl Esgob, Esgusodwch fi, os gwelwch chi’n dda, ond alla i ddim dod draw i roi cynnig ar ymddiheuro, achos: Dw i ddim yn gwybod sut i ddefnyddio’r peiriannau tocynnau yn yr orsaf trên. Mae fan Daf y gath wedi torri i lawr eto. Mae Mistar Penglog wedi brathu fy nhraed, a dw i’n methu…
Llythyr yr Esgob
Dyma Dewi Sant yn yfed cwrw achos ei fod e wedi derbyn llythyr oddi wrth yr esgob. Mae e’n ei agor e, a rhoi e i’r neilltu. Er mwyn darllen llythyr yr esgob, mae angen rhywbeth cryfach arno fe. Mae e’n arllwys llond gwydraid o wisgi, a chael cegaid. Nawr mae e’n teimlo’n barod. DEWI,…
Trên
Dyma Dewi Sant. Heddiw mae Dewi Sant yn mynd i deithio i Gaerdydd. Dyw Dewi Sant ddim yn hoffi teithio. Mae e’n ei gasàu e. Yn anffodus, mae angen ymweld â’r esgob ar Dewi. Dyw Dewi Sant yn hoffi’r esgob achos bod coludd ofnadwy gyda fe. Ac mae’r esgob wastad yn bloeddio arno fe. Mae…
Safon yr Iaith
Un tro, roedd Daf y gath a’i ffrind Jeff yn gwylio Dewi Sant, wrth iddo agor potel arall o gwrw. Cwyno oedd Dewi Sant, fel arfer. – Mae safon yr iaith fan hyn yn wael iawn, meddai, al ôl iddo lyncu llond ceg o’i ddiod. – Hoffwn i glywed mwy o iaith ffurfiol, grefyddol. –…
Cyfweliad (Chwilio am Waith, rhan 6)
Pan gyrraeddodd Jeff y gath ei chyfweliad am ddod yn weithredydd peiriant cwstard, sylweddolodd bod rhywbeth o’i le. Roedd Santes Dwynwen yn eistedd tu ôl i fwrdd gerllaw sied Dewi Sant ynghyd â Keith y gwrden, Draig y ci, a Mistar Penglog. Ar y bwrdd oedd hefyd darn o bren. – Ymddiheuriadau, meddai Santes Dwynwen….
Gwahoddiad (Chwilio am Waith, rhan 5)
Fe gafodd Jeff y gath sioc pan ymddangosodd llythyr yn ei phowlen. Bu bron iddi ei fwyta. Agorodd yr amlen cyn gynted â phosibl, yn frwd, a dechrau ei ddarllen. Re: Swydd Gweithredwr Peiriant Cwstard Annwyl Jeff y gath Diolch yn fawr iawn am eich diddordeb yn y swydd hon. Byddaf wrth fy modd yn…
Hysbyseb (Chwilio am Waith, rhan 4)
Ar ôl i Jeff gwblhau ei CV, fe ddangosodd hysbyseb swydd, wedi’i hoelio i goeden yn yr ardd. Cyfle Cyffrous – Gweithredwr Peiriant Cwstard Santes yn chwilio am weithredwr peiriant cwstard. Nid oes angen profiad o’r blaen. Basai’r swydd hon yn addas i gath galico. Byddwch yn gweithio fel rhan hanfodol o dîm sydd yn…
Sgiliau ac Ansoddau Hanfodol Jeff (Chwilio am waith, rhan 3)
Parhâi Jeff i weithio ar ei CV hi. Sgiliau ac ansoddau hanfodol Gryf iawn am gyfathrebu mewn ffyrdd sydd yn addas i’w chynulleidfa – gan amla i berswadio’r staff, neu Dewi Sant, i’w bwydo. Da iawn am floeddio er mwyn tynnu sylw, yn enwedig gyda meicroffon. Gweithredydd hyderus o ran hela. Meddyliwr cryf a chreadigol o…
Datganiad Personol Jeff (Chwilio am Waith, rhan 2)
Datganiad Personol – Jeff y gath Cath hyblg yr wyf, gan dros 7 mlynedd o brofiad o fwyta brecwestau a chiniawau cathod eraill, sydd yn angerddol am ddal llygod er mwyn eu rhoi fel anrhegion i’r staff. Rwyf yn mwynhau ffeindio dullau creadigol i ddwyn bwyd. Rwyf yn ymrwymedig i anwybyddu Daf y gath yn…
