December 3, 2024

Chwibanodd yr Archfadarchen, a daeth sawl madarchen arall mas o’r ddaear. Roedd pennau coch gyda nhw, ac roedden nhw i gyd yn cario offer dirgel wrth iddyn nhw canu cân am gwstard.
– Dan nhw wedi bod yn gwrando arnon ni? gofynnodd Jeff.
– Nac ydyn, mae obsesiwn mawr â chwstard gyda nhw ‘fyd.
– Wedi neud hyn o’r blân, ‘te?
– O, do.

Erbyn hyn, roedd y madarch yn dawnsio o gwmpas y ddraig. Taniasant hwythau canhwyllau, wrth i rai fod mewn ffeit mawr dros offeryn hir â oedd botwm coch mawr arno.

Gwenodd yr Archfadarchen.

– Maen nhw i gyd isie cychwyn yr holl beth.
– Gad i fi neud e, meddai Jeff.
– Na, mae rhywbeth pwysig i ti’w wneud yn gynta.
O flaen Jeff, safodd madarchen a oedd yn gwenu’n lydan.
– Llyfa fe, meddai’r Archfadarch.
Ufuddhaodd hi.

Yn syth bìn, roedd Jeff yn hedfan trwy gefndir lliwgar. Hedfanodd draig wen uwch ei phen hi, cyn iddi lanio mewn llanerch, lle’r oedd cerddoriaeth rhamantus i’w glywed, a chalonnau bach yn hofran yn yr awyr. Ymddangosodd menyw benfelen atyniadol, wedi gwisgo mewn gwisg oedd yn llifo i’r ddaear, ac oedd yn dangos rhigol ei bronnau.

– Helo, meddai’r fenyw, mewn llais rhywiol. – Santes Dwynwen dw i.
Gwyliodd Jeff wrth iddi bwyntio at nant a oedd yn byrlymu gerllaw.
– Dyma fy nant, meddai Santes Dwynwen, fy nant cwstard cariad.
– Cwstard cariad? meddai Jeff. – Mae hwnna’n swno’n disgusting.

Roedd yna ffrwydriad enfawr cyn i Jeff ffeindio ei hunan yng nghanol y llawnt, wedi gorchuddio mewn cwstard, ac yn edrych ar gi du hapus a oedd wedi ymddangos lle’r oedd y ddraig wedi bod.

– Shwmae, meddai’r ci. – Draig dw i.

Cwblhaodd daf ei brofiad seicedelig. Agorodd ei lygaid ef yn araf.
– Ydw i wedi colli unrhyw beth?
– Dim rîly, meddai Jeff, yn llyfu cwstard oddi ar ei thraed. Ond dw i ‘di troi’r ddraig yn gi.
– Shwmae, meddai’r ci – Draig dw i.
– Wfft i hyn, ‘te, meddai Daf, cyn anelu at ei fan er mwyn gwneud dosbarthiadau’r dydd.
– Ble mae’r staff? meddai Jeff.

Daeth y stori i’w diwedd o’r diwedd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.