Un tro, roedd Daf y gath a Franz Kafka yn chwarae gyda Draig y ci yn yr ardd. Byddai Daf yn taflu’r bêl, a Kafka’n adrodd rhywbeth diflas wrth i’r ci’w nôl hi.
Ymddangosodd Jeff y gath galico, yn gyffrous iawn.
– Daf, meddai hi, – wi ‘di sgwennu haiku.
– Ti ‘di sgwennu beth?
– Haiku. Dw i ‘di bod yn greadigol.
– O na, dim mwy o farddoniaeth. Beth yw’r pwnc?
Cododd Jeff ael.
– Mae ‘na tair llinell ynddi. Pum sillaf, saith sillaf, a phump. ‘Sdim odlau o gwbwl.
– Fel englyn ond yn wâth, felly, ochneidiodd Daf. – Amdani ‘te.
Cliriodd Jeff ei gwddf.
Haiku Jeff
gan Jeff y gath
Llwgu, dwi’n llwgu
Ble mae’r staff wedi mynd?
Bwydwch fi nawr, plis
– Hoffes i’r teitl, meddai Daf.
– Dw i’n meddwl dy fod ti wedi mynegi trallod bywyd yn dda iawn, meddai Franz Kafka.
– Diolch yn fawr, meddai Jeff, a bant â hi er mwyn chwilio am ei eilfed brecwast ar bymtheg.