
Dyw Dewi Sant ddim yn iach.
O diar.
Ydy ei fys wedi ei brifo?
Nac ydy, dydyn ni ddim yn canu Sosban Fach heddiw. Mae Dewi Sant wedi codi pwysau, ac mae e wedi bod yn smocio gormod o sigarennau. Mae e’n teimlo’n rhy flinedig o lawer i helpu’r Pab codi diwygiad newydd yng Nghrymych.
Mae Daf y gath yn awgrymu gwneud tamaid bach o ymarfer corff.
Dyw Dewi Sant ddim o blaid gwneud ymarfer corff. Wedi’r cyfan, mae ei gorff dros wyth cant oed. Mae e wedi anghofio ei oedran ei hun oherwydd yr holl ddiodydd cryfion.
Mae e’n gwneud ymwthiad neu ddau, ac wedyn rhoi’r gorau iddi.