1400: Planhigion

Ddoe, fe blannodd Daf y gath gynnwys paced o Dreamies fel pe baent yn hadau, er mwyn trwsio’r lawnt.

Ydyn nhw wedi egino eto?

Ydyn!

Sut olwg sydd ar blanhigyn Dreamies?

Mae planhigion Dreamies yn edrych fel gobenyddion gwyrdd bychan. Dydyn nhw ddim yn edrych fel glaswellt o gwbl.

Am siomedig.

Sut flas sydd arnyn nhw?

Mae Daf yn blasu un ohonyn nhw. Ych a fi! Maen nhw’n blasu fel hen sigarennau mewn blwch llwch.

Mae Daf yn pisio arnyn nhw er mwyn eu lladd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.