May 16, 2024

Cymeriadau

A’r ydych yn ddryslyd? Dw i yn. Dyma restr o’r cymeriadau.

Wrth gwrs, mae pob un cymeriad yn ffuglennol, hyd yn oed os maen nhw’n rhannu enwau, ac unrhyw tebygwrydd i bobl fyw yn… ie, wel.

Y Cathod

Daf
Cath sinsir yw Daf, sydd yn laconaidd dros ben. Mae hi’n gyrru fan er mwyn gwneud dosbarthiadau. Does neb yn gwybod beth yn union mae hi’n dosbarthu. Yn achlysurol, mae hi’n cael syniadau ar gyfer rhyw fenter newydd neu’i gilydd. Gan amla, mae hi’n gwrando ar eraill heb ddiddordeb.

Darganfwyd bod hi’n ferch ar ôl i’r staff cymryd cyfrifoldeb llwyr drosti ym mis Rhagfyr 2021. Penderfynwyd cadw ei enw gwrwaidd. Does dim ots gyda hi.

Jeff
Cath calico yw Jeff. Mae hi’n ferch arall gydag enw gwrwaidd, oherwydd ei hyblygrwydd. Mae ganddi obsesiwn mawr â bwyd a phroblem catnip.

Anifeiliaid Eraill

Draig
Ci yw Draig, er oedd e’n ddraig go iawn pan gyrraeddodd. Bachgen da iawn, yn hoff iawn o’i bêl. Gall e’n dal i hedfan. Mae tegan gyda fe, o’r enw Mistar Penglog, sydd bach yn frathog.

Yr Hanner-Siarc
Siarc wedi’i hollti yn ei hanner. Hoff iawn o jyglo.

Seintiau, Cymeriadau Eglwysol a Ffigurau Chwedlonol

Dewi Sant
Yfwr, ysmygwr. Mawr yn Sir Benfro. Mae Dewi yn byw mewn sied yn yr ardd ar ôl iddo golli ei eglwys.

Santes Dwynwen
Nawddsant cariad, “ffrind” Dewi Sant. Gwneud llawer o’i chwstard cariad, ac yn torri ei nicars o bryd i’w gilydd. 

Y Frenhines Branwen
Mae Branwen yn dod o Iwerddon; mae gyda hi arfer drwg o ddinistrio bron popeth.

Yr Esgob
Bos Dewi Sant. Ddim yn hapus o gwbl am fod Dewi yn byw mewn sied yn lle eglwys. Coludd ofnadwy.

Personau Eraill

Franz Kafka
Awdur enwog a di-gobaith. Hoff iawn o ymguddio y tu ôl i bethau, arfer drwg o guddio selsig. Rhyfeddol o fach.

Samuel Beckett

Awdur enwog a di-gobaith arall. Hoff o lefydd tynn. Wedi byw yng ngwesty cathod am sbel.

Planhigion, Llysiau, a bwydydd amrywiol

Yr Archfadarch
Arweinwr y madarch, sydd yn gwneud swynion a defodau hudolus. Weithiau, maen nhw’n gweithio fel mae e’n bwriadu.

Madarchen (Het) Jeff
Madarchen sydd yn byw ar ben Jeff fel het weithiau.

Y Prifdaten
Taten diflas, pwysig iawn. Angen mawr cynulleidfa arno fe. Mynd yn grac trwy’r amser. Arweinwr myddin y tatws. Credu ei fod yn arbennig o dda am bopeth, ond mae e’n ynfytyn.

Panasen Kafka
Plymiwr, mae’n debyg.

Keith y Gowrd
Mae Keith yn dew, ac yn rownd, ac mae e methu symud.

Selsig Kafka

Gan amlaf, mewn paced.