Mae’r llu o fam-guod wedi ymgasglu yn y lolfa. Maen nhw am chwarae bingo. Maen nhw wedi llogi peiriant bingo, ynghyd ag enwebu galwraig a phopeth.
Ond mae Daf y gath am gael cyntun bach yn y lolfa.
– Bydd rhaid i ti gyfaddawdu, meddai Santes Dwynwen wrth Daf. – Pwy a ŵyr be fydde’r mam-guod yn neud ‘set ti’n eu rhwystro nhw rhag chwarae eu bingo. Mae’r risg yn ormod.
– Sa i isie cyfaddawdu, meddai Daf. – Dwisie cysgu. ‘Sen nhw’n chwarae bingo, bydde lot o floeddio. A fi ddath i’r lolfa gynta. Fi ddim am symud.
– Mae mathau eraill o gyfaddawdau, meddai Santes Dwynwen. – Allen i dy gario di mas i’r heulwen yn yr ardd, ac felly fyddai ddim angen arnat ti symud.
– Dyna’r math o gyfaddawd fi’n lico, meddai Daf.
– Mawredd yr adar, ti’n drwm, meddai Santes Dwynwen.
Saesneg / English
Compromising
The host of grandmas have gathered in the lounge. They want to play bingo. They have hired a bingo machine, along with appointing a caller and everything.
But Dave the cat wants to have a little snooze in the lounge.
– You will have to compromise, says Saint Dwynwen to Dave. – Who knows what the grandmas would do if you stopped them from playing their bingo. The risk is too great.
– I don’t want to compromise, says Dave. – I want to sleep. If they were to play bingo, there would be a lot of shouting. And I came to the lounge first. I don’t want to move.
– There are other types of compromises, says Santes Dwynwen. – I could carry you out into the sunshine in the garden, and so you wouldn’t need to move.
– That’s the kind of compromise I like, says Daf.
– Bloody hell, you’re heavy, says Saint Dwynwen.