May 16, 2024

Un tro, aeth Daf y gath i’r pentre nesaf, Ffos Du. Doedd hi heb fynd yno o’r blaen. Diolch byth, dorrodd ei fan ddim i lawr ar y ffordd.

Yn y pentre, bu pobl gyfoethog ym mhobman, yn eu cerbydau enfawr. Roedden nhw’n ymddwyn yn wael iawn, gweiddi ar ei gilydd a bod yn gas i’r siopwyr.

Cafodd Daf syniad.

Yn ôl â hi adre, lle casglodd hi fwced fawr o gwstard Santes Dwynwen.

Yn ôl â hi i Ffos Du, lle llenwodd hi tanciau petrol cerbydau enfawr y bobl gas â chwstard. Am ddiwrnod ardderchog o waith!

– Terfysgwraig ydw i nawr, meddyliodd Daf y gath.

Ond, fel mae’n digwydd, tanwydd rhyfeddol o effeithlon yw cwstard Santes Dwynwen. Parhaodd y bobl gyfoethog â’u gweithgareddau dyddiol gydag arogl cryf o fanila.

Saesneg / English

Petrol tanks

One day, Dave the cat went to the next village, Ffos Du. She hadn’t been there before. Thankfully, her van didn’t break down on the way.

In the village, rich people were everywhere, in their huge vehicles. They were behaving very badly, shouting at each other and being nasty to the shopkeepers.

Dave had an idea.

Back home she went, where she collected a large bucket of Saint Dwynwen’s custard.

Back to Ffos Du she went, where she filled the petrol tanks of the nasty people’s huge vehicles with custard. What an excellent day’s work!

– I’m a terrorist now, thought Dave the cat.

But, as it happens, Santes Dwynwen’s custard is a surprisingly efficient fuel. The rich people continued their daily activities with a strong scent of vanilla.

1 thought on “484: Tanciau petrol

  1. Diolch am hyn, Dafydd. Patwrn anodd dysgu a chofio yw –
    Ddorodd ei fan ddim i lawr.
    Ond arôl sgwenu hi yma, nes i dysgu hi 🙂
    Dorodd ei fan i lawr. Ryfeddol 😀

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.