October 31, 2024

Wedi cwblhau ei olchiadau, aeth Daf y gath am dro o gwmpas y ddraig, a oedd nawr yn cysgu’n sownd. Golchiadwr araf iawn oedd Daf. Wel, roedd rhaid iddo fe gadw ei draed e’n daclus, ac roedd hi’n bleser pur iddo fe gnoi ei grafangau ef.

Sylweddolodd bod ‘na cylch mawr o lawnt wedi’i losgi, a bod y ddraig ar ben ei hoff blanhigyn catnip. O, na. Pam wnest ti benderfynu glanio fan hyn? meddyliodd. Pwy wyt ti go iawn?

– Draig dw i, mwmiodd y ddraig yn gysglyd, fel roedd e wedi clywed meddyliau Daf.

– Ydych. Fel galla i weld. A mwy na hynny, y’n ni wedi mynd trwy’r holl beth ‘ma ‘n barod.

– Sut dych chi?

– Wel, heblaw am y ffaith dy fod ti wedi gwasgu fy hoff blanhigyn catnip, dw i ddim yn ddrwg. Dw i ddim yn ddraig chwaith.

– Gwych, meddai’r ddraig, cyn cwympo’n ôl i gysgu.

Bydd rhaid i rywbeth arall ddigwydd yn fuan, meddyliodd Daf, neu fydd y pennod nesaf yn un ddiflas.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.