Un diwrnod, roedd Daf y gath yn eistedd yng ngardd ei staff e, yn ymolchi. Roedd yr adar yn canu, a’r madarch yn malu cachu ymysg eu gilydd yn y glaswellt. Yn sydyn, clywodd sŵn uchel, a ffrwydrodd rhywbeth gerllaw
– Do’n i ddim yn disgwyl hynny, meddyliodd, cyn dychwelyd at ymolchi ei draed. Panigodd y madarch, a chilio pob un yn ôl i’r pridd ar unwaith.
Aeth y nefoedd yn dywyll cyn i rhywbeth mawr, goch gwympo i lawr yn syth i’r ddaear â thwrw.
– Bore da, meddai’r peth mawr. Draig dw i.
– Bore da, draig, meddai Daf. – Daf dw i. Beth yw’ch enw chi?
– Ymm, “Draig”, dw i’n meddwl.
– Iawn, wel, dyna hawdd, o leia. Gadewch i fi gwblhau hyn, yna gallwn ni barhau.
Parhaodd Daf i ymolchi.