Mae chwant bwyd difrifol ar Jeff y gath. Fel arfer.
Mae hi’n mynd draw at Dewi Sant, sydd yn gwneud croesair. Wel, mae e’n esgus gwneud croesair. Mewn gwirionedd, mae e’n ysmygu ffag ac yfed cwrw.
– Ble mae’r staff? meddai Jeff.
– Mae’r staff wedi mynd, meddai Dewi Sant, cyn cwympo i gysgu.
Yna, mae Jeff yn mynd draw at Santes Dwynwen, sydd yn gwneud cwstard cariad gyda’i pheiriant cwstard.
– Ble mae’r staff? meddai Jeff.
– Mae’r staff wedi mynd, meddai Santes Dwynwen, yn llenwi bwced â chwstard.
Yna, mae Jeff yn mynd draw at yr hanner-siarc, sydd yn jyglo ag ystlumod cysglyd.
– Ble mae’r staff? meddai Jeff.
– Mae’r staff wedi mynd, meddai’r hanner-siarc, a thaflu ystlum arall i’r awyr.
Yna, mae Jeff yn mynd draw at y madarch, sydd yn dechrau chwyldro yn y gwely rhosod.
– Ble mae’r staff? meddai Jeff.
– Mae’r staff wedi mynd, meddai’r Archfadarch, yn peintio placard sydd yn dweud rhywbeth am frwydro yn erbyn y tatws.
O’r diwedd, mae Jeff yn mynd draw at Daf y gath.
– Mae hyn fel rhywbeth mas o ddrama Samuel Beckett, meddai Daf.
– Ydy mae, meddai Jeff.
– Beth am i ni fynd?, meddai Daf.
– Allwn ni ddim, meddai Jeff.
– Pam lai? meddai Daf.
– Achos ‘bo’ ni’n aros ar gyfer y staff.