Un tro, roedd Daf y gath yn ystyried sut allai hi ennill bach o arian pan fe gaeth hi syniad am fenter newydd. Menter drysu.
– Be ti feddwl, menter drysu? gofynnodd Jeff mewn anghrediniaeth. – Pwy yn y byd sy’n mynd i dalu di am eu drysu nhw?
– Wel pam lai? atebodd Daf. – Ma pobol yn darllen y rybish ‘ma ar y blog, on’d y’n nhw?
Parhaodd Daf i gasglu ei hoffer. Dychwelodd Jeff ar ôl hela moch er mwyn gweld beth fyddai’n digwydd.
– Reit, bant â’r cart, meddai Daf.
Rhodd Franz Kafka (a oedd yn rhyfeddol o fach) mewn blwch Tupperware, a’i lenwi â chwstard cariad, cyn ei gydio yng nghoes Santes Dwynwen, a neidiodd dros y giât gefn a diflannu i’r pellter.
Yn hurt, roedd Jeff yn sefyll yn gegrwth ac yn hollol dawel.
– ‘Na ni, meddai Daf.
– Ond sneb yn actually mynd i dalu am hwna, meddai Jeff ar ôl oediad.
Yr eiliad hon, rhodd Dewi Sant darn pump ceiniog i Daf.
– We ti’n gweud? meddai Daf.