October 16, 2024

Un tro, aeth Daf y gath i’r siop dreigladau er mwyn stoco lan. Roedd prinder o dreigladau trwynol yn yr ardd yn enwedig, ar ôl i Franz Kafka roi’r cwpwrdd treigladau ar dân ar ddamwain.

– Helo Daf, meddai’r siopwraig. – Beth ti gwneud man hyn? Wyt ti’n chwilio am treigladau?

– Yndw wir, meddai Daf.

Ond roedd yn silffoedd yn wag.

– Does dim byd ar ôl i ni, meddai’r siopwraig. – Daeth torfeydd o dysgwyr i mewn a prynu’r cwbl lot.

– We fi’n meddwl bo ti’n siarad yn od, meddai Daf. – Shwt alla i helpu?

– Gor-treiglo!

– Gor-dreiglo?

– Dyna be dwedes i.

– Iawn, wel, fyddwn i ddim fod wedi ddychmygu y fod hyn yn syniad dda o wbl, meddai Daf, yn araf iawn. – Hyd yn oed fel jôc.

Yn sydyn, roedd y silffoedd yn llawn o dreigladau unwaith eto.

– Diolch byth, meddyliodd Daf.

Yr eiliad hon, daeth sŵn rhyw seiren neu’i gilydd drwy’r ffenest.

– O na, meddai’r siopwraig. – Yr Heddlu Treiglo. Rheda!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.