October 16, 2024

Dychwelodd Daf y gath i’r ardd ar ôl bore hir o ddosbarthiadau yn ei fan. Dim ond blwch cardbord oedd e mewn gwirionedd, ond o ganlyniad yr oedd e’n ysgafn, yn gyflym ac yn effeithlon. A llawn dop â gwallt sinsir. Gweiddi ar y staff am bwdin oedd Jeff, ei ffrind calico, unwaith eto, tra bod Dragon y ci yn chwarae gydag ei gynffon ei hun.

– Jeff, dere fan hyn am funud.
– Beth? Ble mae’r staff?
– Beth yw dy enw cyfan? Nid dim ond Jeff yw e, siawns?
– Sai’mod. Erioed ‘di meddwl amdani. Beth yw dy enw cyfan ‘te?
– Dafydd ap Dafydd dw i, meddai Daf, yn falch iawn. Dw i’n dod o linell hir o Ddafyddion.
– Dw i’n dod o gartref cathod, meddai Jeff.
– Felly ‘te, gadewch i ni gytuno ar Jeff ap Jeff. Mae’n swno’n dda.
Cododd Jeff ei hysgwyddau, a llyfu ei choes hi.
– Eniwê, meddai Daf, pam yn y byd ma’ enw gwrwaidd ‘da ti, pan ti’n ferch?
– Hyblygrwydd, meddai Jeff, wrth redeg bant i hela llygoden.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.