October 16, 2024
Mistar Afal Hapus yn nhŵr y cathod.
“Dwyt ti ddim yn mynd i ffeindio dim Dreamies yno.”

Afal anfad yw Mistar Afal Hapus. Mae e’n esgus bod yn hapus, ond mewn gwirionedd, mae e eisiau i bawb arall fod yn anhapus iawn iawn.

Mae Mistar Afal Hapus wedi meddiannu ystafell uwch tŵr y cathod. Mae e’n syllu allan o’r tŵr â’i wên echrydus, a dymuno niweidion mawr ar bawb.

Mae Daf y gath yn dod i archwilio.

– Beth wyt ti’n wneud? meddai Daf, yn gywrain.
– Dw i’n meddiannu eich tiriogaeth, meddai Mistar Afal Hapus, â chwerthiniad brawychus. – Fy nhiriogaeth i yw e nawr.

– Paid bod mor ddi-chwaeth, meddai Daf. – Dwyt ti ddim yn mynd i ffeindio dim Dreamies yno, beth bynnag.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.