Un tro, sylwodd Jeff y gath bod Daf o dan y bwrdd yn y lolfa.
– Arhosa am funud, meddai Jeff, – Pam nad y’n i tu fas yn yr ardd?
– Mae’r staff ‘di dod nôl, meddai Keith y gowrd, a oedd yn ymlacio ar y soffa.
– Iawn. Daf, be ti neud fanna?
– Dwi’n rhaglenni ‘mheiriant drymie. Dwisie bod yn seren Acid House.
– Ti’n hwyr, fel, tri deng mlynedd, meddai Jeff.
– Gweud ‘ny eto, meddai Daf, – Dwisie dy samplo.