October 16, 2024

Daeth eos i mewn i’r ardd un tro. Roedd llais hyfryd gyda hi, a chanodd drwy’r dydd a thrwy’r nos.

– Dwi’n mynd i ladd hi, meddai Jeff y gath. – Sai’n cal winc o gwsg fan hyn.

– Paid, atebodd Daf.

– Pam lai? Bydde hi’n mynd yn dda gyda thamed bach o facwn.

– Symbol yw hi. Rhaid i ti beidio lladd symbole.

– Pff, meddai Jeff, a chicio Keith y gowrd, a ddwedodd ddim byd.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.