Un tro, roedd Dewi Sant yn edrych dros y ffens. Roedd e’n synnu at weld rhes o danciau wedi ymgasglu ar hyd y palmant. Ac roedd y Prifdaten yn cyfarth rhyw rwtsh am diriogaeth. Pwy fyddai wedi dyfalu?
Arllwysodd Dewi ddiod iddo’i hun. Dylai fe fod wedi cwblhau ei ymgais ar gyfer y gystadleuaeth lenyddol erbyn hyn, ond oedd hyn yn bwysicach o lawer. Roedd rhaid iddo stopio’r Prifdaten rhag achosi rhyfel. Cynnodd ei ffag lan, a fflagio lawr nifer o fadarch a oedd yn pasio, yn gynnwys yr Archfadarch, a oedd yn gwisgo het felfed mawr.
– Bydd rhyfel cyn bo hir, meddai Dewi i’r Archfadarch, – ‘sen ni ddim yn ofalus.
– Na fydd, atebodd yr Archfadarch. – Mae fe jyst yn dwpsyn swnllyd.
Dilynodd ffrwydriad. Er syndod mawr bawb, roedd Keith y gowrd wedi tanio taflegryn enfawr i danciau’r Prifdaten. Doedd neb yn gwybod sut. Ymhen munud, cliriodd y mwg, ac roedd hi’n amlwg y doedd dim byd o’r Prifdaten a’i fyddin ar ôl.
– Dyna ddiwedd i’r holl beth, ‘te, meddai Dewi Sant, a gorffen ei ffag.