October 16, 2024
Cath calico sy'n edrych ar facwn
“Dw i ddim yn hoffi cwstard o gwbl. Dw i’n hoffi bacwn.”

Gan fod mis Ionawr wedi dechrau, mae Santes Dwynwen yn paratoi ar gyfer ei dydd sbesial hi. Mae hi’n ceisio tacluso’r ardd, cael gwared o selsig Franz Kafka wedi’u cuddio, ac yn y blaen, ond gwaith caled yw e, achos bod yr ardd mewn llanast llwyr.

Mae Jeff y gath yn dod heibio, gyda ffon yn ei cheg. Mae hi wedi bod yn hela moch eto. Heb llwyddiant.

– Jeff, allet ti fy helpu i i dacluso’r ardd? meddai Santes Dwynwen.
– Na alla i, meddai Jeff, – Dw i’n hela. Beth wyt ti’n mynd i wneud ar ôl tacluso?
– Dw i’n mynd i wneud cwstard cariad! meddai Santes Dwynwen.

Does dim ymateb. Mae Daf y gath wedi pasio mas ar ôl noson yn y tafarn yng nghwmni Dewi Sant.

– Pam?
– Mae pawb yn caru cwstard.
– Dw i ddim yn hoffi cwstard o gwbl. Dw i’n hoffi bacwn.

Mae Jeff yn rhedeg bant. Mae Santes Dwynwen yn galw am Daf y gath yn ei lle.
Does dim ymateb. Mae Daf y gath wedi pasio mas ar ôl noson yn y tafarn yng nghwmni Dewi Sant.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.