
Roedd rhaid i Dewi Sant gael gwared â’i ocarina ar ôl iddi gael ei thynnu yn ystod ei lawdriniaeth.
Ond yn anffodus mae e wedi dod o hyd i grymgorn.
Sut offeryn ydy crymgorn?
Mae crymgyrn yn dyddio’n ôl i’r Canol Oesoedd. Maent yn swnio fel haid o wenyn candryll.
Gwych. Ydy e’n ymarfer?
Ydy. Bydd Daf y gath yn diflannu cyn gynted ag y cwyd Dewi’r peth uffernol.
Bydd angen taith arall i’r ysbyty?
Bydd.