Fydd swydd ar gyfer yr enwog Owain Glyndŵr ym mhlaid newydd Bryn?

Mae’r enwog Bryn Teribl wedi bod yn gwylio castiau’r contllyd Baijel Garej ar y teledu. Mae e eisiau derbyn anrhegion ariannol hefyd, felly mae e wedi penderfynu creu plaid wleidyddol newydd.

Dros ba fath o safbwynt gwleidyddol neu bolisïau fydd e’n sefyll?

Gitarau bâs i bawb. Dyna fydd ei unig bolisi.

O diar.

Beth am diffygion economaidd? Problemau cymdeithasol?

Does dim ots gyda Bryn am y rheiny, yn union fel ei arwr gwleidyddol.

Fydd swydd ar gyfer yr enwog Owain Glyndŵr ym mhlaid newydd Bryn?

Na fydd. Mae Bryn am ddilyn esiampl y contllyd Baijel Garej a gwneud popeth ar ei ben ei hunan. Os bydd Owain am elwa ar nawdd pobl bwysig, bydd rhaid iddo greu ei blaid ei hunan.

Pa enw fydd ar blaid Bryn?

Y Blaid Ysbeilio.

Mawredd. O wel, mae’n onest, o leiaf.

Pa enw fydd ar blaid Owain?

Y Blaid Ceilliau.

Mawredd yr adar.

Pam hynny?

Oherwydd ei fod wedi camglywed enw parti Bryn. Ceilliau amdani!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.