1381: Ymddeoliad

Mae’r Esgob wedi ymddeol.

Diolch byth.

Mae e’n disgwyl i bawb bobi teisennau a bisgedi, a chynnal parti er mwyn ei anrhydeddu.

Ond mewn gwirionedd mae pawb yn casáu’r Esgob, a’i galw “yr Esgont” y tu ôl i’w gefn. Felly does dim teisennau, na bisgedi, na pharti.

— Hei Jeff, medd Daf y gath i’w chwaer. — Beth am i ni daflu lan pelenni ffwr dros ‘i sgidie?

— Syniad da, cytuna Jeff. — Gwynt teg ar ei ôl!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.