Mae’r esgob yn ymlacio yn ei fath, efo’i “ffrind” brydferth, wrth i lythyr gyrraedd.
Annwyl Esgob,
Yn anffodus, dydy Dewi Sant ddim yn gallu gweithio ichi ragor, achos mae’n ofynnol iddo fynychu adloniant ysgafn mewn theatr yng nghanolbarth Lloegr. Ar ôl iddo fynd yn ôl, bydd e’n rhy brysur yn tynnu ei ben-gliniau i ffwrdd efo llwy fwrdd i ddychwelyd i’r gwaithg.
Dymuniadau gorau,
Harold Trwsus (Mrs.)
Mae’r esgob yn troi yn goch, yna mae ffrwydrad.
– DW I’N MYND I LADD Y GATH HON, bloeddia.