October 16, 2024

Dyma Dewi Sant yn yfed cwrw achos ei fod e wedi derbyn llythyr oddi wrth yr esgob. Mae e’n ei agor e, a rhoi e i’r neilltu. Er mwyn darllen llythyr yr esgob, mae angen rhywbeth cryfach arno fe. Mae e’n arllwys llond gwydraid o wisgi, a chael cegaid. Nawr mae e’n teimlo’n barod.

DEWI,

PAM NA DDEST TI YMA DDOE? YR YDWYF YN GRAC IAWN. MAE RHAID I TI ESBONIO, YN FUAN.

YR ESGOB

Mae Dewi Sant yn meddwl bod yr esgob yn dechrau swnio fel y Prifdaten. Mae e hyd yn oed yn bloeddio yn ei lythyrau e. Mae angen ar Dewi Sant feddwl am esgusodion, yn gyflym iawn. Mae e’n tanio ffag, ac aros am ysbrydoliaeth.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.