I ffwrdd o’r ardd, roedd Santes Dwynwen yn derbyn ei hyfforddiant ar hylifau hudolus gan angylion yr ardal. Eistedd mewn dosbarth yr oedd hi, gyda sawl gwrach, brenin o dramor, ac arth anferth o’r enw Mordey. Roedd golwg dychrynllyd ar yr ardd, ond oedd e’n gweithio’n dawel ar ei destiwbiau a cynhwysodd rhywbeth gwyrdd, drewllyd.
– Reit, meddai’r angel a oedd yn arwain y sesiwn. – Dw i am i chi edrych ar hwn.
Ymgasglodd y myfyrwyr o gwmpas ei ddesg. Tanodd yr angel llosgyr Bynsen, a’i roi o dan bicer gwydr llawn o ddŵr. Ychwanegodd powdr coch ato. Yn sydyn, llenwyd yr awyr gan ddelweddau o galonnau pinc, prydferth. Clapiodd y myfyrwyr mewn edmygedd.
– Mae’r powdrau a geiriau’r swyn draw fan yna. Ceisiwch eich hunain, meddai’r angel.
Ychwanegodd Mordey powdr brown at ei ficer. Llenwyd yr awyr gan ddelweddau o bysgod brown.
– Bron, meddai’r angel.
Ychwanegodd Santes Dwynwen powdr melyn at ei bicer, a frwydrodd a gorchuddio popeth â chwstard.
– Mae dawn… arbennig gyda chi, meddai’r angel, yn llyfu ei wefusau yn iasaidd.