October 16, 2024

Un tro, roedd prinder tanwydd. Roedd Daf y gath yn methu gwneud ei ddosbarthiadau, achos nad oedd gyda fe betrol ar gyfer ei fan.

Oherwydd y diffyg dosbarthiadau, doedd dim powdr cwstard ar gael.

Oherwydd y prinder powdr cwstard, nid oedd santes Dwynwen yn gallu gwneud cwstard cariad.

Oherwydd y prinder cwstard cariad, nid oedd cariad.

Oherwydd y diffyg cariad, roedd pawb yn anobeithgar.

– Mae’r hyn fel y gân am yr hen fenyw nâth llyncu cleren, meddai Jeff.
– Sdim clêr i gâl, meddai Daf, yn ddiobaith.

Roedd Franz Kafka’n hapus iawn, achos ei fod e’n hoff iawn o dostur. Aeth e guddio tu ôl i goeden.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.