October 16, 2024

Gwnaeth y Prifdaten cyhoeddiad pwysig.

Mae’r Prifdaten wedi ad-drefnu’r ardd.

Mae Dewi Sant wedi colli ei swydd fel Ysgrifenydd Diodydd, a bydd bellach yn Weinidog heb Eglwys.

Mae Santes Dwynwen yn olynu bwced o faw fel Weinidog Ffrwythlondeb.

Mae Daf y Gath wedi colli ei swydd fel Ysgrifenydd Dosbarthiadau, a wedi cael ei benodi fel Gweinidog Llyfu.

Mae Jeff y Gath yn parhau fel Gweinidog Hetiau a Bwyd.

Mae’r Frenhines Branwen yn olynu’r hanner-siarc fel Ysgrifenydd Jyglo.

Bydd yr hanner-siarc yn Weinidog heb Gynffon.

Mae Franz Kafka yn parhau fel Ysgrifenydd Anhapusrwydd.

Anwybyddodd pawb y cyhoeddiad.

– Ble mae’r staff? meddai Jeff.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.