October 16, 2024

Roedd Daf y gath wedi bod yn gwylio Drag Race gyda’r staff.

– Jeff, dere fan hyn, meddai Daf i’w ffrind calico, – beth am i ni rostio’r Prifdaten?
– Rhostio fe?
– Ie, rhostio fe. Fel ar Drag Race. Mae fe wastod mor ddiflas. Gallen ni wisgo ffrogie ‘fyd.
– Sai isie gwisgo ffrog, meddai Jeff. – Fydd hi ddim yn mynd â fy het.
– ‘Ta beth, meddai Daf, heb ddiddordeb. – Mewn rhost, galli di weud beth bynnag ti isie wrth dy darged. Ac mae gyda fi loads i weud.

Trefnodd Daf y rhost. Dwedodd wrth y Prifdaten ei fod e eisiau iddo fe farnu sioe dalent. Roedd llwyfan ger sied newydd Dewi Sant, â meicrofon disglair arni, ac eisteddodd y Prifdaten, Santes Dwynwen, a’r Frenhines Branwen mewn llinell o flaen iddi. Ymddangosodd Daf, yn edrych yn anhygoel o od mewn ffrog pinc a phâr o fronnau ffug. Ceisiodd sawl jôc am fod y Prifdaten yn ddiflas, ond bu tawelwch.

Trodd y Prifdaten yn goch.
– NID YW HWN YN DDERBYNOL, bloediodd, ac ystumio i’w fyddin i ymosod ar y cathod.

– Wel, am syniad da, Daf, ti’n hapus nawr? gofynnodd Dewi Sant, wrth iddo rowlio sigaret.
– Arhoswch am eiliad, meddai Jeff.

Aeth hi i nôl bocs o fatshys, cwpl o bapurau newyddion, a ffon.
– Gwyliwch hwn.

Rhodd Jeff y papurau newyddion ar dân, cyn sgiweru’r Prifdaten â’i ffon, a’i rostio fe go iawn. Roedd ei sgrechiadau’n ofnadwy, a chyn bo hir, doedd dim ond lwmpen du wedi’i losgi ar ben ffon Jeff. Bu tawelwch eto.

– ‘Na ni, meddai Jeff.
Ond siarad ymhlith ei gilydd oedd y tatws. Camodd un ohonyn nhw ymlaen o’r grwp. Oediodd y taten, yna ebychu – YN AWR, FI YW’R PRIFDATEN PWYLLGOR PIWRITANAIDD Y TATWS. NID YW HWN YN DDERBYNOL.

– Mae ‘na wastod un, meddyliodd Daf, yn llyfu ei ffrog pinc.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.