October 16, 2024

Lle mae Jeff yn dihuno’r staff gydag anrheg bach.

Un tro, am bump o’r gloch y bore, roedd popeth yn dawel. Tywyll oedd hi, a doedd yr adar ddim wedi dechrau canu eto. Cysgu’n sownd yr oedd y staff.

Daeth Jeff y gath calico i’r drws ffrynt.

– GAD FI MEWN, bloediodd, drosodd a throsodd a throsodd.

Cododd aelod o staff a mynd i lawr y grisiau. Agorasant y drws.

– Be’ ti isie? meddai’r aelod o staff yn gysglyd.
– Dw i ‘di llygota hwn, meddai Jeff, gan ddynodi lwmpen o flew ar y llawr. – Dw i isie bwyta fe tu fewn. Na i adael y pen i ti.

Caeodd y staff y drws.

Taflodd Jeff y llygoden i lan i’r awyr a diflannu. Sgrialodd Daf y gath a’r hanner-siarc heibio mewn troli siopa a oeddent wedi dwyn o’r archfarchnad.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.