October 31, 2024

Yn y syrcas, mae Dewi Sant yn y babell fawr, yn gwylio’r enwog Bryn Terfel, sydd yn perfformio unwaith eto ar y trapîs yn ei wisg Siôn Corn.

Doedd e ddim am ddychwelyd i uffern, hyd yn oed er mwyn ymweld â Santes Dwynwen.

Mae Dewi yn cael ei hypnoteiddio gan symudiadau’r canwr opera ar y trapîs. Cyn hir, mae e’n dechrau cael gweledigaeth sanctaidd o’i hen sied yn yr ardd.

Yn y weledigaeth, mae madarch yn dawnsio o gwmpas y sied, mae’r hanner-siarc yn jyglo, ac mae’r tatws yn ymddwyn yn briodol hyd yn oed.

Ond wedyn, mae’r octopws gogleddol nawddoglyd, Eifion Sant, nawddsant newydd Cymru, yn ymddangos. Mae e’n gorwedd mewn bath ysblennydd a gwawdio Dewi Sant.

Mae Dewi yn deffro mewn arswyd.

Efallai na fyddai taith fach i uffern mor wael wedi’r cwbl.

Saesneg / English

Vision

In the circus, Saint David is in the big top, watching the famous Bryn Terfel, who is performing once again on the trapeze in his Santa Claus outfit.

He didn’t want to return to hell, even to visit Saint Dwynwen.

Daint David is hypnotized by the opera singer’s movements on the trapeze. Before long, he begins to have a holy vision of his old shed in the garden.

In the vision, mushrooms dance around the shed, the half-shark juggles, and the potatos even behave appropriately.

But then, the patronising northern octopus, Saint Eifion, the new patron saint of Wales, appears. He lies in a splendid bath and mocks Saint David.

Saint David awakens in horror.

Perhaps a little trip to hell wouldn’t be so bad after all.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.