Trefnodd Dewi Sant y parti i ddathlu Diwedd y Byd. Roedd e wedi gwahodd sawl sant, yr Esgob, a chwpl o fenywod nad oedd yn gwisgo llawer. Llifodd y cwrw, llifodd y cwstard cariad o beiriant cwstard Santes Dwynwen. Roedd yr ardd mewn anrhefn llwyr o hwyl a sbri, ac roedd Keith y gowrd yn dod yn gyfeillgar iawn gyda’r gloronen enfawr.
Dechreuodd coes siarad i Daf y gath.
– Pwy wyt ti te? gofynnodd Daf.
– Sant Methodiws dw i, meddai’r coes.
– Ble mae’r gweddill o’no ti? meddai Daf mewn anghrediniaeth.
– Mae ‘na ddarne ohona fi o gwmpas y byd. T’mod shwt ma nhw gyda chreirie.
– Da iawn, meddai Daf, heb ddiddordeb, a llyfu ei thraed.